St Giles Cymru announce partnership with National Trust Cymru on newly reopened historic Aberdulais Site

St Giles Cymru announce partnership with National Trust Cymru on newly reopened historic Aberdulais Site

[National Trust Cymru Press Release]
Read Welsh language translation

  • Visitors welcomed back to explore over 400 years of history.
  • With restoration works now complete, this gem of Welsh industrial history will be open to the public, free of charge, each week on Thursday and Fridays.
  • The reopening marks the start of a new partnership at Aberdulais as National Trust Cymru join up with St Giles Cymru, an award-winning social justice charity.

Aberdulais Tinworks and Waterfall in the heart of the Neath Valley will reopen today, Thursday 1 February, and entry will be free of charge for everyone. The reopening also marks the beginning of a new partnership with St Giles Cymru, who will use the historic location for a Green Community Training, Heritage & Wellbeing Hub for people facing the greatest adversity.

Aberdulais is one of Britain’s earliest industrial sites, and from February all visitors are welcomed back to explore over 400 years of history. Cared for by National Trust Cymru the waterfall, waterwheel and tinworks will be open to the public 10.30am to 3.30pm on Thursdays and Fridays initially. Additional opening days are planned for later in the year with the conservation charity also engaging with local schools, groups and community groups to give them beneficial access to Aberdulais outside of opening hours. 

Throughout the centuries Aberdulais became a centre of industrial pioneering powered by water from the spectacular Aberdulais Falls, first with the creation of copper, textiles then iron and finally tin. Today, it is that tinplate era that is brought back to life, following over 30 years of restoration and conservation work by National Trust Cymru since becoming custodians in 1980. 

Situated on the edge of Waterfall Country in the Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) National Park, the waterfall at Aberdulais is the only accessible one in the area. Flowing through a rocky gorge, the River Dulais is an awesome force when in full flow and a haven for wildlife and birds, with dippers and herons in regular sight. 

After a temporary closure due to Covid 19 restrictions, followed by months of essential conservation works to stabilise the rockface and structural support of river-facing walls, staff and volunteers are now ready to open Aberdulais to the public again. 

National Trust Cymru’s Director, Lhosa Daly said: 

“We are delighted to reopen Aberdulais in partnership with St Giles Cymru for everyone to experience and enjoy. The completed restoration works ensure that this gem of Welsh industrial history is here for generations to come.  

We look forward to welcoming people from the local community and further afield to enjoy Aberdulais, it’s green spaces and historic past.” 

The reopening marks the start of a new chapter for Aberdulais as National Trust Cymru partner with St Giles Cymru, an award-winning social justice charity.  St Giles Cymru will use some of the buildings and wider site at Aberdulais to enable their work in helping people facing the greatest adversity to realise a positive future. 

Lhosa continues: 

“Together, National Trust Cymru and St Giles Cymru will reach more communities and benefit more people. We are honoured that this award willing organisation has partnered with us to reimagine this important and historic site. “ 

Over the next 12 months, St Giles will develop a plan for reaching more communities and people across Wales through Aberdulais. Their aim is to create an innovative Green Community Training, Heritage and Wellbeing Hub, providing a unique volunteering support network and training programme for young people and adults adversely affected by poverty, exploitation, abuse, mental health and crime. 

Using their award-winning, lived experience peer led model to empower local people who are not getting the help they need, the project will create Green Community Champions, build community resilience, reduce barriers to employment, education and volunteering by working with local communities and employers to upskill local people, host work placements and organise community events. 

Tracey Burley, CEO of St Giles adds:  

“We are delighted to enter into this partnership with National Trust Cymru, and hope this will be the start of a long-lasting relationship. We are looking forward to working together on this historic and beautiful site, to combine the power of green spaces, education, practical training and support to empower members of the local community who have faced the greatest adversity to build positive futures.” 

Whilst offering their core services onsite St Giles Cymru are also planning to assist with the ongoing care and maintenance of Aberdulais, helping to ensure a sustainable future for the site. 

With Aberdulais open again National Trust Cymru are looking for volunteers to join those who already help care for the site. Opportunities available include welcoming visitors, looking after the book shop, which will open a few hours each week, caring for the green spaces and engaging people in the many fascinating stories Aberdulais has to tell. To find out more, visit www.nationaltrust.org.uk/support-us/volunteer or email aberdulais@nationaltrust.org.uk  

Before visiting Aberdulais please check the Trusts’ website as opening times and days may vary: www.nationaltrust.org.uk/aberdulais  

To find out more about services offered by St Giles Cymru go to: www.stgilestrust.org.uk  


Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi y bydd Aberdulais yn ailagor mewn partneriaeth â St Giles Cymru 

  • Croesewir ymwelwyr yn ôl i archwilio mwy na 400 mlynedd o hanes. 
  • Mae’r gwaith adfer wedi’i gwblhau erbyn hyn, a bydd y trysor hwn yn hanes diwydiannol Cymru ar agor i’r cyhoedd, yn rhad ac am ddim, bob dydd Iau a dydd Gwener. 
  • Mae ailagor y safle yn arwydd o bartneriaeth newydd yn Aberdulais wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru uno â St Giles Cymru, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol wobrwyol. 

 

Bydd Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yng nghanol Cwm Nedd yn ailagor heddiw, dydd Iau 1 Chwefror, a bydd mynediad am ddim i bawb. Hefyd, mae’r ailagoriad yn arwydd o bartneriaeth newydd gyda St Giles Cymru, a fydd yn defnyddio’r lleoliad hanesyddol ar gyfer Hwb Llesiant, Treftadaeth a Hyfforddiant Cymunedol Gwyrdd i bobl sy’n wynebu’r adfyd mwyaf. 

Mae Aberdulais yn un o safleoedd diwydiannol cynharaf Prydain, ac o fis Chwefror bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu’n ôl i archwilio mwy na 400 mlynedd o hanes. Caiff y rhaeadr, yr olwyn ddŵr a’r gwaith tun eu gwarchod gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac ar y dechrau byddant ar agor i’r cyhoedd rhwng 10.30am a 3.30pm bob dydd Iau a dydd Gwener. Y bwriad yw cynnig diwrnodau agor ychwanegol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a hefyd bydd yr elusen gadwraeth yn ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau a grwpiau cymunedol lleol er mwyn iddynt gael cyfle i fanteisio ar Aberdulais y tu allan i’r oriau agor swyddogol. 

Dros y canrifoedd, daeth Aberdulais yn ganolfan arloesi diwydiannol a gâi ei rhedeg gan ddŵr rhaeadr ysblennydd Aberdulais, gan greu copr yn gyntaf, yna tecstilau, ac wedyn tun. Heddiw, y cyfnod cynhyrchu tun sydd wedi’i adfywio, yn dilyn 30 mlynedd o waith adfer a chadwraeth gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ers i’r ymddiriedolaeth ddod yn geidwad ar y safle ym 1980. 

Lleolir rhaeadr Aberdulais ar gyrion Gwlad y Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r rhaeadr hon yw’r unig raeadr o fewn cyrraedd hwylus yn yr ardal. Mae Afon Dulais yn llifo trwy geunant creigiog; pan fo yn ei llawn lif, mae ei grym yn eithriadol, a hefyd mae’n hafan i fywyd gwyllt ac adar, a gellir gweld bronwennod y dŵr a chrehyrod yno’n rheolaidd. 

Ar ôl i’r safle gau dros dro oherwydd cyfyngiadau Covid 19, ac yna sawl mis o waith cadwraeth hanfodol i sefydlogi’r clogwyni a chynnal y waliau wrth yr afon, mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn barod yn awr i agor Aberdulais i’r cyhoedd unwaith eto. 

Medd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: 

“Rydym wrth ein bodd o gael ailagor Aberdulais mewn partneriaeth â St Giles Cymru, er mwyn i bawb allu mwynhau’r safle. Mae’r gwaith adfer yn sicrhau y bydd y trysor hwn yn hanes diwydiannol Cymru yn parhau i fod yma am genedlaethau i ddod. 

Edrychwn ymlaen at groesawu pobl o bell ac agos i fwynhau Aberdulais, ei fannau gwyrdd a’i orffennol hanesyddol.” 

Mae ailagor y safle yn arwydd o bennod newydd yn hanes Aberdulais wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru weithio mewn partneriaeth â St Giles Cymru, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol wobrwyol. Bydd elusen St Giles Cymru yn defnyddio ambell adeilad, ynghyd â’r safle ehangach yn Aberdulais, yn ei gwaith i helpu pobl sy’n wynebu’r adfyd mwyaf i wireddu dyfodol cadarnhaol. 

Yn ôl Lhosa: 

“Gyda’n gilydd, bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a St Giles Cymru yn cyrraedd ychwaneg o gymunedau a bydd rhagor o bobl yn elwa. Anrhydedd i ni yw bod y sefydliad gwobrwyol hwn yn gweithio mewn partneriaeth â ni i ail-greu’r safle pwysig a hanesyddol hwn.” 

Dros y 12 mis nesaf, bydd St Giles yn llunio cynllun ar gyfer cyrraedd ychwaneg o gymunedau a phobl ledled Cymru trwy gyfrwng Aberdulais. Nod yr elusen yw creu Hwb Llesiant, Treftadaeth a Hyfforddiant Cymunedol Gwyrdd, gan gynnig rhaglen hyfforddi a rhwydwaith cymorth gwirfoddoli unigryw i bobl ifanc ac oedolion sy’n dioddef oherwydd tlodi, camfanteisio, camdriniaeth, iechyd meddwl a throseddu. 

Gan ddefnyddio’i fodel ‘profiad bywyd’ gwobrwyol dan arweiniad cymheiriaid i rymuso pobl leol nad ydynt yn cael y cymorth angenrheidiol, bydd y prosiect yn creu Hyrwyddwyr Cymunedol Gwyrdd, yn helpu’r gymuned i wrthsefyll anawsterau, ac yn lleihau rhwystrau o ran cyflogaeth, addysg a gwirfoddoli trwy weithio gyda chyflogwyr a chymunedau lleol er mwyn uwchsgilio trigolion yr ardal, cynnal lleoliadau gwaith a threfnu digwyddiadau cymunedol. 

Medd Tracey Burley, Prif Swyddog Gweithredol St Giles: 

“Rydym wrth ein bodd o gael gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru – gobeithio y bydd hyn yn fan cychwyn ar gyfer perthynas faith a pharhaol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd ar y safle hanesyddol a hardd hwn i gyfuno grym mannau gwyrdd, addysg, hyfforddiant ymarferol a chymorth fel y gellir grymuso’r aelodau hynny o’r gymuned leol sydd wedi wynebu’r adfyd mwyaf i greu dyfodol cadarnhaol.” 

Tra bydd St Giles yn cynnig ei wasanaethau craidd ar y safle, mae’r sefydliad hefyd yn bwriadu cynorthwyo i warchod a chynnal a chadw Aberdulais, gan helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r safle. 

Yn sgil ailagor Aberdulais, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’r rhai sydd eisoes yn gofalu am y safle. Mae’r cyfleoedd a gynigir yn cynnwys croesawu ymwelwyr; gofalu am y siop lyfrau, a fydd ar agor rai oriau bob wythnos; gofalu am y mannau gwyrdd; ac ennyn diddordeb pobl yn yr hanesion diddorol sydd gan Aberdulais i’w hadrodd. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar www.nationaltrust.org.uk/support-us/volunteer neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad aberdulais@nationaltrust.org.uk. 

Cyn ymweld ag Aberdulais, edrychwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth oherwydd gall yr amseroedd a’r diwrnodau agor amrywio: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/aberdulais  

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethu a gynigir gan St Giles Cymru, edrychwch ar: www.stgilestrust.org.uk 

Get the latest from the St Giles Newsletter

Receiving our newsletter will mean you will be the first to hear about the impact of our work. latest news, invitations to events and find out ways you can support us.