[Press Release]
St Giles Trust, in partnership with Adferiad and CAIS Social Enterprises, launched a new social supermarket in Colwyn Bay today, 20 July, to help people who are struggling to provide for themselves and their families.
Established as a Social Enterprise, Y Pantri (The Pantry,) will redistribute food, consisting of high-quality products that have been supplied by Fareshare. Fareshare is the UK’s national network of charitable food re-distributors, made up of 18 independent organisations, taking good quality surplus food from right across the food industry and supplying frontline charities and community groups.
Aimed at helping people who are struggling with the increased cost of living or with a much lower level of disposable income, Y Pantri, which is based at the site of the former Porters Coffee Shop & Bistro on Station Road, will be a social supermarket with a difference.
Participants will be referred to the service and then ‘subscribe’ for a very low fee (£3.50 per week), which would allow for one scheduled visit per week to shop for produce – such as meat, cereals, fresh fruit and vegetables, as well as receiving specialist and confidential 1-2-1 advice and guidance on any number of issues that could be affecting them or their families. The advice and guidance will be given by trained staff and volunteers, many of whom have had experience of the issues those using Y Pantri are facing.
Alun Thomas, Adferiad’s Chief Executive, said:
“Adferiad is delighted to be partnering with St Giles Trust Cymru on this innovative and much needed service. We work together on a number of initiatives and welcome our St Giles Trust Cymru colleagues to Station Court in Colwyn Bay.
“Y Pantri offers a way that people who are experiencing the difficulties associated with the rising cost of living can take control of this area of their spending in relation to healthy and nutritious food at a reasonable cost. This is so very aligned with our campaign this year Time to Take Control, helping people with practical advice, information, and assistance to navigate through the cost-of-living crisis.”
Tracey Burley, St Giles Trust CEO added:
“With great pride, we open our new Pantri in Wales, addressing the unique challenges faced by our local community. This Pantri is a beacon of hope, combatting food insecurity by providing tailored support and resources to help people turn their past into a future. By partnering with local organisations, we aim to meet the distinct needs of the local community in a coastal area. Together, we aim to significantly reduce food poverty, empower individuals, and build a stronger, more inclusive Wales.”
In addition to offering good quality, discounted food, a member of staff from the Cyfle Cymru out of work service will be available to engage and work with participants using the scheme.
Marian Williams, Associate Director and Project Lead for Cyfle Cymru, said:
“The out of work service, Cyfle Cymru, is delighted to be working closely with colleagues from Y Pantri to offer additional support to those held back by poverty, addiction, mental health issues and other complex needs.
“Cyfle Cymru helps people affected by substance misuse and/or mental health conditions to develop confidence and provides support for individuals to access training, qualifications and work experience/volunteering. The project’s committed team of Peer Mentors often draw on their lived experience of recovery from substance misuse and mental health problems, to help support others into work.
“We hope that together we can help tackle poverty, ensure equal opportunity for all, raise skills, get more people into work, and improve the lives of people and our communities.”
Conwy councillor, Chris Hughes, said:
“As a local councillor I see at first hand through my casework and the residents I meet on a daily basis, the impact 10 years of austerity has had on our community, and I understand the poverty and desperation suffered by many local families.
“In an era when no one should have to rely on food banks to feed their families we face the harsh reality that many have to do just that.
“The partnership between Adferiad, CAIS and St Giles is one I welcome, I know how much it is needed in the local area, I wish Y Pantri all the very best for the future.”
Y Pantri will be managed on a day-to-day basis by St Giles, who already run several successful Pantry schemes in England, this will be their first food pantry in Wales. Y Pantri offers a sustainable model to not only decrease food insecurity, but to empower communities out of food poverty for good.
The social supermarket will employ two part-time members of staff and will be open 4 days a week initially. Y Pantri is funded by the Welsh Government’s Landfill Disposal Tax Scheme, (administered by the WCVA.)
ABOUT ST GILES
St Giles is an award-winning charity using expertise and real-life past experience to empower people who are not getting the help they need – people held back by poverty, exploitation, abuse, dealing with mental health problems, caught up in crime or a combination of these issues. Many of the charity’s employees have been in the same circumstances and use their experiences to inspire and support those living through it right now.
For more information contact: media@stgilestrust.org.uk
Archfarchnad gymdeithasol yn lansio’n swyddogol ym Mae Colwyn
Mae ymddiriedolaeth St Giles Trust, mewn partneriaeth gydag Adferiad a Mentrau Cymdeithasol CAIS, wedi lansio archfarchnad gymdeithasol newydd ym Mae Colwyn heddiw, 20 Gorffennaf, i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd i ddarparu ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd.
Wedi ei sefydlu fel Menter Gymdeithasol, bydd Y Pantri yn ailddosbarthu bwyd, yn cynnwys cynnyrch o safon uchel, sydd wedi eu cyflenwi gan Fareshare. Mae Fareshare yn rwydwaith genedlaethol o ail-ddosbarthwyr bwyd elusennol, sy’n cynnwys 18 sefydliad annibynnol, sydd yn derbyn bwyd dros ben o safon uchel, o ar draws y diwydiant bwyd, gan ei ddosbarthu i elusennau a grwpiau cymunedol rheng flaen.
Bydd Y Pantri, sy’n anelu i helpu pobl sy’n cael trafferth oherwydd y cynnydd mewn costau byw, neu gyda lefel incwm gwario llawer îs, sydd wedi ei leoli yn lleoliad blaenorol y Porters Coffee Shop & Bistro ar Ffordd yr Orsaf, yn archfarchnad gymdeithasol o fath gwahanol.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio i’r gwasanaeth, ac wedyn yn ‘tanysgrifio’ am daliad isel iawn (£3.50 yr wythnos), fyddai’n caniatáu un ymweliad wedi’i drefnu yr wythnos i siopa am gynnyrch – megis cig, grawnfwydydd, a ffrwythau a llysiau ffres, yn ogystal â derbyn cyngor ac arweiniad arbenigol a chyfrinachol un i un ar nifer o faterion allai fod yn effeithio arnynt hwy neu eu teuluoedd. Bydd y cyngor a’r arweiniad yn cael ei ddarparu gan staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig, a llawer o ohonynt â phrofiad o’r problemau mae’r rhai hynny sy’n defnyddio Y Pantri yn eu wynebu.
Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad:
“Mae Adferiad yn falch i fod yn partneru gyda St Giles Trust Cymru gyda’r gwasanaeth arloesol hwn y mae mawr ei angen. Rydym yn cydweithio ar nifer o fentrau ac yn croesawu ein cydweithwyr o St Giles Trust Cymru i Station Court ym Mae Colwyn.
“Mae Y Pantri yn cynnig ffordd y gall pobl sydd yn profi anawsterau sy’n gysylltiedig â’r cynnydd yng nghostau byw gymryd rheolaeth o’r agwedd yma o’u gwariant o ran bwyd iach a maethlon am bris rhesymol. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos gyda’n hymgyrch eleni sef Time to Take Control, sy’n helpu pobl gyda chyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol i’w helpu i fordwyo drwy’r argyfwng costau byw.”
Ychwanegodd Tracey Burley, prif swyddog gweithredol St Giles Trust:
“Rydym yn falch iawn i fod yn agor ein Pantri newydd yng Nghymru, gan fynd i’r afael â’r heriau unigryw mae ein cymuned leol yn eu hwynebu. Mae’r Pantri hwn yn cynnig gobaith, gan ymateb i ansicrwydd bwyd trwy ddarparu cefnogaeth wedi’i deilwra ac adnoddau i helpu pobl i droi eu gorffennol yn ddyfodol. Drwy bartneru gyda sefydliadau lleol, anelwn i ddiwallu anghenion penodol y gymuned leol mewn ardal arfordirol. Gyda’n gilydd, anelwn i leihau tlodi bwyd yn sylweddol, i rymuso unigolion, ac i adeiladu Cymru sy’n gryfach ac yn fwy cynhwysol.”
Yn ogystal â chynnig bwyd o safon am bris gostyngol, bydd aelod staff o wasanaeth allan o waith Cyfle Cymru ar gael i ymgysylltu ac i weithio gyda chyfranogwyr sy’n defnyddio’r cynllun.
Dywedodd Marian Williams, Cyfarwyddwr Cydymaith ac Arweinydd Prosiect ar gyfer Cyfle Cymru: “Mae’r gwasanaeth allan o waith, Cyfle Cymru, yn falch i fod yn gweithio gyda chydweithwyr o Y Pantri i gynnig cefnogaeth ychwanegol i’r rhai hynny sy’n cael eu dal yn ôl gan dlodi, caethiwed, materion iechyd meddwl ac anghenion cymhleth eraill.
“Mae Cyfle Cymru yn helpu pobl a effeithir gan gamddefnydd sylweddau ac/neu gyflyrau iechyd meddwl i ddatblygu hyder ac yn darparu cefnogaeth i unigolion gael mynediad i hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith / gwirfoddoli. Mae tîm ymroddedig o Fentoriaid Cymheiriaid yn aml yn defnyddio eu profiad byw o’u hadferiad o gamddefnydd sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, i helpu i gefnogi eraill i mewn i waith.
“Gobeithiwn y gallwn, gyda’n gilydd, helpu i fynd i’r afael â thlodi, sicrhau cyfle cyfartal i bawb, cynyddu sgiliau, cael mwy o bobl i mewn i waith, a gwella bywydau pobl a’n cymunedau.”
Dywedodd y cynghorydd Sir Conwy, Chris Hughes:
“Fel cynghorydd lleol rwy’n gweld drosof fy hun, trwy fy astudiaethau achos a’r trigolion rwy’n eu cyfarfod yn ddyddiol, yr effaith mae 10 mlynedd o lymder wedi ei gael ar ein cymuned, ac rwy’n deall y tlodi a’r anobaith mae llawer o deuluoedd lleol yn ei ddioddef.
“Mewn amser ble na ddylai unrhyw un orfod dibynnu ar fanciau bwyd i fwydo eu teuluoedd, rydym yn wynebu’r realiti caled fod yn rhaid i lawer o bobl wneud hynny.
“Mae’r bartneriaeth rhwng Adferiad, CAIS a St Giles yn un rwy’n ei groesawu. Rwy’n gwybod faint mae ei angen yn yr ardal leol, dymunaf y gorau i Y Pantri ar gyfer y dyfodol.”
Bydd Y Pantri yn cael ei redeg o dydd i ddydd gan St Giles, sydd yn rhedeg nifer o gynlluniau Pantry llwyddiannus yn Lloegr eisioes, gyda hwn eu pantri bwyd cyntaf yn Nghymru. Mae Y Pantri yn cynnig model cynaliadwy nid yn unig i leihau ansicrwydd bwyd, ond i rymuso cymunedau allan o dlodi bwyd yn barhaol.
Bydd yr archfarchnad gymdeithasol yn cyflogi dau aelod staff rhan-amser ac yn agored 4 diwrnod yr wythnos i ddechrau. Mae’r Pantri yn cael ei gyllido drwy Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, (a weinyddir gan y WCVA.)
AMDAN ST GILES
Mae St Giles yn elusen arobryn sy’n defnyddio arbenigedd a phrofiad bywyd go iawn i rymuso pobl sydd ddim yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt – pobl sy’n cael eu dal yn ôl gan dlodi, ecsbloetiaeth, camdriniaeth, delio gyda phroblemau iechyd meddwl, yn cael eu dal i fyny mewn troseddu, neu gyfuniad o’r materion hyn. Mae nifer o gyflogai’r elusen wedi profi’r un amgylchiadau ac yn defnyddio eu profiadau i ysbrydoli ac i gefnogi’r rhai hynny sy’n byw drwy hynny ar hyn o bryd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: media@stgilestrust.org.uk